Rhaglen hyfforddi lefel uchel sydd wedi’i hanelu at y sectorau bwyd-amaeth a biotechnoleg. Caiff hyfforddiant ei ddarparu ar-lein ynghyd â gweithdai dewisol lle bo hynny’n briodol. Gellir ymgymryd â’r cyrsiau fel datblygiad proffesiynol parhaus neu weithio tuag at amrediad o gymwysterau ôl-raddedig.
Bwriad y prosiect yw cynyddu arloesedd a chynhyrchiant cwmnïau biotechnoleg a bwyd Cymru a gwella eu cadwyni cyflenwi cysylltiedig. Caiff hyn ei gyflawni drwy fynd i’r afael â ‘phroblemau cyflenwol’ y canlynol:
Mae’r gweithrediad yn darparu hyfforddiant ar lefel ôl-raddedig i helpu busnesau Cymru i gofleidio’r economi gylchol ac i ddarparu llwybr ar gyfer eu cyflogeion i ennill cymwysterau ôl-raddedig.
Cymru gyfan
Rhaid i gyfranogwyr fodloni’r meini prawf canlynol:
389 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesedd gyda menter
190 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ennill cymhwyster wrth adael ar lefel gradd Meistr (ISCED 7) neu ddoethurol (ISCED 8)
315 o gyflogwyr wedi’u cynorthwyo
193 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesedd gyda menter
101 o gyfranogwyr â gradd ôl-raddedig neu gyfwerth yn ennill cymhwyster wrth adael ar lefel gradd Meistr (ISCED 7) neu ddoethurol (ISCED 8)
158 o gyflogwyr wedi’u cynorthwyo