Pontydd i Waith 2 – Mae’r prosiect hwn wedi’i orffen
Disgrifiad o’r prosiect
Mae Pontydd i Waith 2 yn brosiect rhanbarthol sy’n cefnogi pobl sy’n economaidd anweithgar a phobl ddi-waith yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tydfil a Thorfaen. Nod y prosiect yw cynnig cefnogaeth er mwyn cael cyflogaeth â thal, sy’n gynaliadwy. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys mentora, datblygu sgiliau, cyflwyno cymwysterau achrededig a lleoliadau gwirfoddoli.
Nod y prosiect yw:
- Cefnogi pobl i gael cyflogaeth gynaliadwy â thâl.
- Darparu hyfforddiant sgiliau a chymwysterau achrededig.
- Gosod pobl mewn lleoliadau gwirfoddol a lleoliadau gwaith priodol
Bydd aelodau’r tîm prosiect yn helpu cyfranogwyr i ddeall eu rhwystrau i gyflogaeth ac yn cefnogi pobl ar sail unigol er mwyn goresgyn eu rhwystrau.
- Hyfforddiant sgiliau, cymwysterau a chyrsiau galwedigaethol am ddim.
- Cymorth gyda chwilio am swyddi, ysgrifennu CV a datblygu sgiliau cyfweliad.
- Lleoliadau gwirfoddoli a gweithio
- Cymorth ychwanegol ar gyfer y rhai hynny sy’n wynebau rhwystrau rhag gweithio, megis cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, anghenion gofal plant a chludiant.
Cwmpas daearyddol
Gweithredir y prosiect mewn ardaloedd lle nad yw Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu, yn yr awdurdodau lleol canlynol yn ne-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tydfil, Torfaen
Meini prawf cymhwyster hanfodol
- 25 oed neu hŷn.
- Heb fod yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf
- Wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor neu’n economaidd anweithgar.
Targedau penodol
- 3155 Ymgysylltiad â chyfranogwyr
- 1621 Ennill Cymhwyster
- 1196 Unigolion sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith/gwirfoddoli
- 694 Unigolion sy’n llwyddo i gael gwaith
- 515 Unigolion sy’n chwilio am swyddi ar ôl gorffen y prosiect
Manylion cyswllt
Enw: Matthew Davies
E-bost: Matthew.Davies@torfaen.gov.uk
Rhif ffôn: 01633 647745
Cyfeiriad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, The Highway, Croesyceiliog, Torfaen NP44 2HF
Gwefan:
Facebook:
Manylion ychwanegol
Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt
Pen-y-bont ar Ogwr – Gemma Hayne
Blaenau Gwent – Claire Gough
Caerphilly – Elizabeth Goodwin
Merthyr Tydfil – Deb Ryan-Newton
Torfaen – Angela Shirlow