Mae CEMET yn ymgysylltu â BBaChau yn rhanbarth gogledd a gorllewin Cymru a’r Cymoedd er mwyn cynnal prosiectau gwaith ymchwil a datblygu ar y cyd i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Mae gan y rhaglen dîm ymchwilio a datblygu mewnol pwrpasol, sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd technoleg newydd gan gynnwys Realiti Rhithiol, Realiti Estynedig, Realiti Cymysg, Deallusrwydd Artiffisial, Technoleg Gemau Addysgol, Rhyngrwyd Pethau a Blockchain. Cyflawnir pob prosiect drwy ddefnyddio’r fframwaith Scrum, gan ymgorffori trosglwyddiad gwybodaeth dwyffordd yn gyson.
Cam 1. Diagnosteg Busnes
Mae cam cyntaf CEMET yn cynnwys asesiad o bob un o’r cwmnïau a ddatganodd diddordeb yn y rhaglen i sicrhau eu bod yn gymwys, yn gredadwy ac yn gymeradwy a bod eu syniad yn ddichonadwy.
Cam 2. Gwaith Ymchwil a Datblygu ar y cyd
Mae’r broses ymchwilio a datblygu ar y cyd yn dechrau yn ystod ail gam y rhaglen. Cyflawnir pob prosiect ymchwil drwy’r fframwaith Scrum ac mae’n ymgorffori cyfnewid gwybodaeth ddwyffordd rhwng CEMET a’r BBaCh.
Cam 3. Llwybr i’r Farchnad
Mae’r cam olaf yn dod â’r cydweithrediad i ddiweddglo trefnus, gan sicrhau bod y prosesau Ymchwil a Datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a mapio llwybrau wedi eu cwblhau.
Nydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol ar draws ardal gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae CEMET yn ymgymryd â phrosiectau Ymchwil a Datblygu, ar y cyd â diwydiant, gan gefnogi busnesau i gyflwyno cynhyrchion sy’n newydd i’r farchnad neu sy’n newydd i’r cwmni. Ynghyd â’r targedau penodol hyn mae CEMET yn chwilio am gleientiaid sydd yn y sefyllfa i droi’r gwaith ymchwil a datblygu a wneir yn gyfalaf, er mwyn cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.
Mae’r tabl isod yn dangos cynnydd ar gyfer gweithrediad Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (GCC) hyd at ddiwedd Mehefin 2021.
Targedau cynllun busnes Cronnus GCC hyd at ddiwedd Mehefin 2021 | Danfon cronnus yn GCC hyd at ddiwedd Mehefin 2021 | Amrywiad | |
---|---|---|---|
Mentrau sy'n derbyn cefnogaeth anariannol | 76 | 75 | -1 |
Partneriaid yn cydweithredu mewn prosiectau ymchwil | 76 | 84 | 8 |
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r cwmni | 38 | 42 | 4 |
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r farchnad | 12 | 12 | - |
Cyllid cyfatebol buddsoddiad preifat | £389,277 | £449,729.17 | £60,452.17 |
Mae’r tabl isod yn dangos cynnydd ar gyfer gweithrediad Dwyrain Cymru (DC) hyd at ddiwedd Mehefin 2021.
Targedau cynllun busnes cronnus DC hyd at ddiwedd Mehefin | Danfon cronnus yn DC hyd at ddiwedd Mehefin 2021 | Amrywiad | |
---|---|---|---|
Mentrau sy'n derbyn cefnogaeth anariannol | 21 | 23 | 2 |
Partneriaid yn cydweithredu mewn prosiectau ymchwil | 24 | 26 | 2 |
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r cwmni | 12 | 13 | 1 |
Mentrau a gefnogwyd i gyflwyno cynhyrchion sy'n newydd i'r farchnad | 2 | 4 | 2 |
Cyllid cyfatebol buddsoddiad preifat | £185,816 | £240,921.67 | £55,105.67 |