CPE Stage 2 Final Evaluation Report – FINAL VERSION CYM – 12.7.23 PDF
Cliciwch lun i lawrlwytho PDF
Mae pedair prifysgol yng Nghymru wedi dod ynghyd, fel partneriaid, i gyflawni prosiect tair blynedd o hyd a ariennir gan WEFO/ERDF. Byddant yn cyfuno eu harbenigedd mewn ffotoneg i ddarparu datrysiadau arloesol ar gyfer busnesau yng Ngorllewin Cymru ac ardal y Cymoedd. Gobeithir y bydd y buddion yn gwella economi Cymru drwy ddarparu datrysiadau a gwella sgiliau, hwyluso twf a gwella cynhyrchiant. Gobeithir hefyd y bydd yn ehangu ein gwybodaeth a’n gallu drwy waith ymchwil ymarferol sy’n seiliedig ar ddatrys problemau, gan roi mantais gystadleuol sylweddol i Gymru. Bydd yn cynyddu’r gallu ym maes ffotoneg ac yn y tri maes ymchwil a dargedwyd ac yn denu buddsoddiad mewnol sy’n ymwneud â ffotoneg.
Mae’r model cyflenwi yn dibynnu ar gydweithrediad ymchwil a datblygu, ac yn defnyddio’r arbenigedd ymchwil gorau o brifysgolion Glyndŵr, Aberystwyth, Bangor a/neu Brifysgol De Cymru drwy amrediad o brosiectau sydd wedi’u dylunio gan ystyried anghenion y cwmnïau. Er ei fod yn seiliedig ar egwyddor ‘paru’, nid oes unrhyw gost i’r cwmnïau mewn gwirionedd oherwydd caiff y mewnbwn academaidd ei ddarparu am ddim, o ba bynnag Brifysgol sy’n gallu diwallu’r anghenion hynny orau, ar yr amod bod y cwmni dan sylw yn ymrwymo i roi o’i amser yn yr un modd. Bydd y cysylltiad cychwynnol drwy Reolwr Datblygu Busnes sydd â mynediad i staff ymchwil, a fydd yn paratoi prosiect posibl gyda threfniant cytundebol rhwng y naill barti a’r llall.
Bydd y prosiect yn fuddiol i ardaloedd awdurdod lleol ledled maes rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Rhaid i fusnes fod o fewn y dalgylch a chan gyflawni’r nod penodol o: “…Gynyddu’r gwaith llwyddiannus o droi prosesau ymchwil ac arloesedd yn gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau masnachol newydd a gwell, yn benodol trwy drosglwyddo technoleg yn well o sefydliadau addysg uwch.”
Bydd y ffocws ar feysydd blaenoriaethol yr ‘Her Fawr’, (strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru):
yn ogystal â thargedu o leiaf pump o saith Blaenoriaeth Economaidd Thematig y Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd:
Bydd 120 o bartneriaid yn cydweithredu mewn prosiectau ymchwil, ac o’r rhain, bydd o leiaf 60 o fentrau yn derbyn cymorth anariannol, (40 yn cael eu cefnogi i gyflwyno cynhyrchion neu brosesau newydd i’r cwmni, 20 yn cael eu cefnogi i gyflwyno cynhyrchion neu brosesau newydd i’r farchnad). Pan na ellir bodloni meini prawf y GAF, cynigir atgyfeirio’r cwmni at ffynonellau eraill o gymorth – Llywodraeth Cymru, WEFO neu’r sector preifat – a bydd hyn yn cael ei gofnodi. Bydd ystyriaeth arbennig yn cael ei rhoi i sicrhau na fydd y gwaith a wneir yn cyfrannu at weithgareddau afleoledig; un o’r targedau craidd yw cynyddu cyflogaeth yng Nghymru o 16 o leiaf o ganlyniad i weithgareddau’r Prosiect.
Cysylltu drwy Linked In.
Mae cysyniad gwreiddiol y Prosiect hwn yn deillio’n ôl rai blynyddoedd i’r adeg y sylweddolwyd fod Cymru yn datblygu arbenigedd blaengar ym meysydd amrywiol ffotoneg, er ei fod mewn lleoliadau ar wahân, a chymaint yn well y gallai fod pe gellid mynd ati mewn modd cydweithredol. Ar ôl diogelu cyllid Ewropeaidd, ac wedi penodi staff ym mis Chwefror a Mawrth 2019, lansiwyd y Prosiect ym mis Ebrill. Trefnwyd dau ddigwyddiad cychwynnol ar y cyd ag Innovate UK KTN, un ym Mhrifysgol De Cymru a’r llall yn Llanelwy, a gwnaeth llawer fynychu’r rhain. Bellach, cynhelir cyfarfodydd gyda chwmnïau ledled y dalgylch ac mae nifer o brosiectau posibl dan drafodaeth ar hyn o bryd.