Cyflawni newid drwy gyflogaeth CGL (ACE) – Sylwch fod y prosiect yma nawr ar gau
Disgrifiad o’r prosiect
Mae ‘Cyflawni Newid drwy Gyflogaeth’ (ACE) yn helpu Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ac unigolion mudol, i gael cyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Nod prosiect ACE yw galluogi Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru i gael cyflogaeth gynaliadwy. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a chymorth cyflogaeth i bobl er mwyn cynyddu eu cyfranogiad a’u dilyniant yn y farchnad lafur. Mae hyn yn cynnwys targedu cyfran uchel o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, a menywod mudol sy’n economaidd anweithgar.
Mae’r prosiect yn darparu:
- Mentora
- Cymorth gan gymheiriaid trwy gyfranogiad gwirfoddol
- Canllawiau cyflogadwyedd
- Trosglwyddo cymwysterau o dramor i gymwysterau a gydnabyddir yn y DU pan fo modd
- Cyngor gyrfaoedd
- Darparu cyrsiau i ddysgu Saesneg yn gyflym/ cyrsiau rhuglder pan fo hynny’n briodol
- Cymorth i leoliadau gwirfoddoli
- Cymorth i leoliadau gwaith
- Cyngor ynghylch hawliau gweithwyr a gofynion cyfreithiol cyflogwyr
- Darparu cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol i bobl yn eu cymunedau
Cwmpas daearyddol
Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru
Meini prawf cymhwyster hanfodol
Mae’n rhaid i atgyfeiriadau i CGL ACE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd fod:
- O gefndir Mudol neu o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
- Dros 25 oed
- Yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU
- a) Wedi bod yn ddi-waith am dros 12 mis (gellir hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ond dim ar y Rhaglen Waith)
NEU
b) Yn economaidd anweithgar
Targedau penodol
- Swyddi i bobl (gan gynnwys hunangyflogaeth),
- Lleoliadau gwirfoddoli/gwaith
- Pobl yn cwblhau cyrsiau hyfforddi.
Manylion cyswllt
Enw: Helen Matthews
E-bost: Helen.Matthews2@cgl.org.uk
Rhif ffôn: 029 2022 1936
Cyfeiriad: Change Grow Live, 57-59 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1FE
Gwefan:
Facebook:
Twitter:
Cynnydd
Cliciwch i weld y fideo