Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Astudiaeth Achos

Astudiaeth Achos 1

Astudiaeth Achos

Astudiaeth Achos 2

Astudiaeth Achos 3

Cymunedau am Waith (Blaenoriaeth 3)

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Cymunedau am Waith yn rhaglen cyflogadwyedd a gynhelir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy’n cynnig gwasanaethau cymorth cyflogaeth mewn 52 ardal clwstwr Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru.

Bydd Cynghorwyr a Mentoriaid Cyflogaeth Cymunedau am Waith yn gweithio’n agos â chyfranogwyr i nodi a goresgyn yr hyn sy’n eu rhwystro rhag cael cyflogaeth neu hyfforddiant. Gall Mentoriaid a Chynghorwyr ymgymryd ag ystod eang o gyfleodd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn ogystal â’r rhai hynny o ffynhonnell leol.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar leihau’r nifer o bobl 16 i 24 oed nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) trwy ddarparu mentora dwys ac ymyrraeth gynnar i atal pobl ifanc rhag mynd ymlaen i fod yn ddi-waith am gyfnod hir.

Mae’r Cynghorwyr Cyflogaeth Oedolion a Chynghorwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig:

  • Cyfweliadau diagnostig i nodi beth yw’r rhwystrau i hyfforddiant neu gyflogaeth
  • Cymorth i unigolion i fynd i’r afael â’r hyn sy’n eu rhwystro rhag gweithio, dilyn hyfforddiant, nodi a dilyn cyfleoedd addysg a chyflogaeth
  • Cymorth, cyngor ac arweiniad unigol, gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau eraill
  • Cymorth unigol i ddilyn cyfleoedd cyflogaeth
  • Cyfateb ‘dyheadau’ cyfranogwr â chyfleoedd yn y farchnad lafur
  • Gwella technegau cyfweld
  • Sgiliau chwilio am swydd
  • Cymorth wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu dychwelyd i’r gwaith e.e. CV a cheisiadau am swydd
  • Cyfrifiadau Sefyllfa Ariannol Well
  • Mynediad at gyllid i helpu gyda’r rhwystrau a fydd yn mynd i’r afael â rhwystrau terfynol sy’n atal pobl rhag gweithio neu ddilyn hyfforddiant pan nad oes darpariaeth arall ar gael, h.y. TGCh, cludiant, dillad ar gyfer cyflogaeth neu gyfweliadau, offer ar gyfer gwaith, gofal plant cyn cyflogaeth

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Mae’n rhaid bod y cyfranogwyr yn byw mewn ardal clwstwr Cymunedau yn Gyntaf ac; Heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) (16 i 24 oed)

Mae NEET yn cynnwys;

  • Cyfranogwr NEET yw rhywun nad yw mewn swydd, addysg na hyfforddiant ar adeg ymyrraeth Cymunedau am Waith
  • Y rhai hynny sy’n economaidd anweithgar

Targedau penodol

Mae canlyniadau Mentoriaid Cyflogaeth i bobl ifanc a Chynghorwyr Cyflogaeth a Rhieni Arbenigol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys y canlynol;

  • Ymgysylltiadau (cofrestru i’r rhaglen Cymunedau am Waith)
  • Ceisiadau am swydd
  • Chwilio am swyddi
  • Caffael cymwysterau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth neu dystysgrif sy’n berthnasol i’r gwaith
  • Cynyddu Cyflogadwyedd trwy brofiad gwaith neu wirfoddoli

Manylion cyswllt