Cliciwch lun i lawrlwytho PDF
Bydd y cyfleuster newydd gwyddorau cyfrifiadurol o safon fyd-eang, sy’n werth £31 miliwn, yn denu arbenigedd cyfrifiadurol a mathemategol. Bydd yn rhoi Abertawe yng nghanol ecosystem ranbarthol ffyniannus o gwmnïau ymchwil a digidol drwy ddenu ymchwilwyr blaenllaw i Gymru.
Mae £17.1 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn cefnogi’r Ffowndri Gyfrifiadurol, a bydd yn arwain ymchwil ym maes gwyddorau cyfrifiadurol a mathemategol, gan wneud Cymru’n gyrchfan fyd-eang af gyfer gwyddonwyr cyfrifiadureg a phartneriaid diwydiannol.
Gweledigaeth y brifysgol yw datblygu cymuned arbennig o wyddonwyr cyfrifiadurol a mathemategol sy’n gweithio ar ymchwil trawsffurfiol sy’n hanfodol o ran adeiladu byd blaengar.
Bydd gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol yn cyflawni rhaglen o weithgarwch drwy:
Bydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol yn rhanbarth y Gorllewin a’r Cymoedd.
Mae’r dangosyddion sy’n gysylltiedig â gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol yn cyd-fynd yn gywrain ag Amcan Penodol 1.1 o Raglen Weithredol ERDF (sef gwella llwyddiant y sefydliadau ymchwil yng Nghymru o ran denu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat) drwy sefydlu cyfleuster ymchwil a datblygu o safon fyd-eang er mwyn cynyddu cyfran y rhanbarth o gyllid ymchwil cystadleuol a phreifat.
Nodwyd pum dangosydd:
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017
Mae gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol yn rhagori ar bob targed ar gyfer dangosyddion allbynnau ers diwedd mis Mehefin 2017.
Dangosydd 3 – Nifer y mentrau sy’n cydweithredu â sefydliadau ymchwil a gefnogir
Mae gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol wedi cydweithredu â 46 o fentrau o’i gymharu â chyfanswm targed o 40.
Dangosydd 4 – Swm cyllid ymchwil a sicrhawyd
Mae’r Ffowndri Gyfrifiadurol wedi sicrhau £9.14 miliwn o’i gymharu â chyfanswm targed o £21.25 miliwn.
Dangosydd 5 – Nifer yr ymchwilwyr newydd mewn endidau a gefnogir
Mae’r Ffowndri Gyfrifiadurol wedi penodi 6 ymchwiliwr newydd o’i gymharu â chyfanswm targed o 31.