Lido Cenedlaethol Cymru, Pontypridd
Rhwng 2007 a 2013, gweithredodd y rhaglen Gydgyfeirio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd a’r rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol yn Nwyrain Cymru.
Roedd rhaglen Cyllid Cydgyfeirio yr UE yn weithredol o 2007 i 2013, a buddsoddodd £1.8 biliwn o arian yr UE, gan ysgogi cyfanswm o £3.4 biliwn o fuddsoddiad. Diogelodd a chreodd y rhaglen swyddi a busnesau hyd yn oed yn ystod argyfwng economaidd byd-eang 2008/9.
Roedd y rhaglen Gydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynnwys Awdurdodau Unedol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.
Roedd oddeutu 290 o brosiectau ledled Cymru ac mae rhai esiamplau o’r prosiectau hynny sy’n effeithio ar ranbarth y De-ddwyrain yn cynnwys:
Rhwng 2007 a 2013, cyflawnwyd y canlynol yn sgil prosiectau Ewropeaidd oedd ar waith yn y De-ddwyrain:
Mentrau a gynorthwywyd | 6,608 |
Mentrau a grëwyd | 5,463 |
Swyddi gros a grëwyd | 16,738 |
Cyfranogwyr | 316,813 |
Cyfranogwyr a gafodd gyflogaeth | 39,450 |
Cyfranogwyr a ddechreuodd ar addysg bellach | 30,807 |
Cyfranogwyr a enillodd gymwysterau | 121,533 |
Mae’r ffilm hon yn rhoi golwg cyffredinol o sut y defnyddiwyd cyllid Cydgyfeirio yn Ne-ddwyrain Cymru:
Roedd y Rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol yn cynnwys Awdurdodau Unedol Caerdydd; Sir y Fflint; Sir Fynwy; Casnewydd; Powys; Bro Morgannwg a Wrecsam. Roedd oddeutu £97 miliwn o Gyllid Ewropeaidd ar gael o dan y rhaglen a ddechreuodd gael ei alw’n ‘Cystadleurwydd’. Datblygwyd y blaenoriaethau ar gyfer cyllid i wireddu’r weledigaeth o greu rhanbarth ffyniannus, llewyrchus a chystadleuol â gweithlu medrus ac arloesol a all gystadlu yn rhyngwladol.
Datblygwyd dwy Raglen Weithredol ar gyfer Dwyrain Cymru, un ar gyfer Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac un ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Blaenoriaeth 1 – Gwybodaeth ac arloesi ar gyfer twf
Blaenoriaeth 2 – Natur Gystadleuol A Thwf Busnesau
Blaenoriaeth 3 – Mynd i’r Afael â’r Newid yn yr Hinsawdd
Blaenoriaeth 4 – Adfywio ar gyfer Twf
Blaenoriaeth 1 – Cynyddu cyflogaeth a mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd
Blaenoriaeth 2 – Gwella lefel sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu
I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau’r rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol yng Nghymru, cliciwch yma i fynd i wefan WEFO.