Nod Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC) yw bod yn un o’r canolfannau gorau yn Ewrop o ran delweddu’r ymennydd. Agorodd y CUBRIC newydd, sy’n costio £44 miliwn, ei drysau ar 7 Mawrth 2016 ac mae’n dwyn ynghyd yr arbenigedd mwyaf blaenllaw yn y byd o ran mapio’r ymennydd a’r diweddaraf ym maes delweddu ac ysgogi’r ymennydd. Mae gan y Ganolfan ran allweddol yn yr ymdrech fyd-eang i ddeall yn well yr hyn sy’n achosi cyflyrau niwrolegol a seiciatryddol megis dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, er mwyn canfod gwybodaeth allweddol i ddatblygu triniaethau gwell.
Dyfarnwyd £4,578,474 i brosiect CUBRIC gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2015, tuag at gostau codi’r adeilad. Mae’r cyllid yn ceisio cefnogi economi Cymru a helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad er mwyn gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran gwaith ymchwil ac arloesi sy’n torri tir newydd.
Sefydlwyd Grŵp Llywio CUBRIC i oruchwylio a rheoli’r CUBRIC newydd, a chadeirir y grŵp gan Ddirprwy Is-ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
Ar ôl adeiladu’r Ganolfan, cyfrifoldeb y Gyfarwyddiaeth CUBRIC fydd cyrraedd allbynnau a thargedau cysylltiedig ag ERDF, gyda chefnogaeth Rheolwr y Ganolfan CUBRIC.
Bydd y prosiect o fudd i ranbarth Caerdydd
Dangosyddion allbwn
Cwblhawyd yr adeilad ac mae’n cael ei ddefnyddio erbyn hyn.