ESF Blaenoriaeth 2: Agile Nation 2

Chw 28, 2022

Leadbold yn arwain y ffordd ac yn elwa’n fawr

Mae Leabold Financial Management, sydd wedi’i leoli yn Abercynnon, wedi ymrwymo i Raglen Busnes Cenedl Hyblyg 2 a ariennir yn llawn gan Chwarae Teg gan ei fod eisiau rhoi lle canolog i ddatblygiad a chynnydd staff ac ansawdd ei wasanaeth ei hun.

Mae’r cwmni ffyniannus wedi ennill statws ‘Sicrhau Cyflogwr Chwarae Teg’ bellach gan Chwarae Teg. Mae wedi cofnodi ei drosiant blynyddol uchaf, sef £620,000, ac mae cyflwyno gweithio hyblyg wedi arwain yn uniongyrchol at arbedion o £20,000 – a rhagwelir arbedion pellach o fwy na £40,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae’r cwmni, sydd wedi’i sefydlu ers 17 o flynyddoedd, yn rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion, busnesau, ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn a chwmnïau proffesiynol eraill. Mae wedi gweithio gydag ymrwymiad diwyro i gydbwysedd rhwng y rhywiau a chynhwysiant, ac wedi cymryd camau effeithiol fel cyflwyno polisïau sy’n ystyriol i deuluoedd a meithrin ymdeimlad o hyblygrwydd ac ymddiriedaeth mewn staff. Yn ogystal â’r gwobrau ariannol mae ymdrechion y busnes wedi ei alluogi i ddenu a chadw cyflogeion dawnus, cynyddu cynhyrchiant a lles staff, yn ogystal â lleihau ei effaith ar yr amgylchedd gan fod angen llai o deithio bellach.

Dywedodd Derek Lavington, Cyfarwyddwr / Swyddog Cydymffurfio, Leabold Financial Management:

“Yn Leabold, rydyn ni wedi ymrwymo i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i wella ein diwylliant o degwch, didwylledd a chynhwysiant. Fe wnaethon ni ddechrau ar Raglen Fusnes AN2 gyda chyfres o bolisïau a gweithdrefnau da eisoes ar waith ond rydyn ni wedi cael budd o Chwarae Teg yn adolygu ein holl arferion ni i’n helpu i wella’n barhaus. Rydyn ni wedi mynychu gweithdai i wella ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth ac wedi elwa o gefnogaeth ein Partner Cyflogwr, Jane Griffiths, i gryfhau ein dull o weithredu ac i ymgorffori arfer gorau. Rydyn ni’n benderfynol o ddenu ystod eang o dalent newydd i’r busnes yn ogystal â sicrhau bod ein holl gyflogeion presennol yn gweithio mewn busnes sy’n cefnogi eu lles ac yn rhoi pob cyfle iddyn nhw lwyddo a datblygu.”

Mae Rhaglen Busnes Cenedl Hyblyg2, sy’n cael ei gweithredu gan Chwarae Teg, yn cael ei hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Darganfod mwy am Raglen Busnes Cenedl Hyblyg 2.