Cafodd Will ei gyfeirio gan Gyrfa Cymru ar ôl gadael y coleg gan nad oedd yn gwybod beth yr oedd eisiau ei wneud nesaf ac roedd arno angen rhywfaint o gefnogaeth gyda meithrin cymhelliant a sicrhau cyfeiriad. Er ei fod wedi bod yn y coleg am dair blynedd, nid oedd yn teimlo’n barod am waith gan nad oedd yn mwynhau’r cwrs gosod brics yr oedd wedi bod yn ei wneud ac nid oedd eisiau dilyn hynny fel gyrfa. Teimlai fel petai wedi bod dan bwysau i wneud y cwrs hwnnw gan ei fod wedi’i gyflwyno fel yr unig opsiwn iddo. Roedd Will yn teimlo ei fod wedi cael ei adael i ofalu amdano’i hun heb unrhyw syniad am ble i fynd nesaf. Mae ganddo ADHD ac mae’n cael trafferth gyda chanolbwyntio a ffocws, ac mae ganddo hefyd aelodau iau o’r teulu y mae disgwyl iddo ofalu amdanynt yn aml. Roedd yr holl bethau hyn gyda’i gilydd yn golygu bod Will yn teimlo ar goll ac yn isel pan ddaeth i’r prosiect ym mis Hydref 2020.
Dechreuodd Llamau drwy helpu Will i ailadeiladu rhywfaint o hyder drwy’r gweithgareddau yn uned Gwella Eich Hyder Eich Hun gan Agored. Roedd yn ddefnyddiol i Will ailymgysylltu â threfn ddysgu reolaidd a chael ei atgoffa o’i gryfderau a’i nodweddion cadarnhaol. Dechreuodd weld nad oedd yn fethiant ar ôl bod yn y coleg i astudio cwrs nad oedd eisiau ei ddilyn fel gyrfa, ac y gallai ffrwyno’r sgiliau a ddysgwyd ar y cwrs hwn ar gyfer swyddi eraill.
Wedyn fe wnaethant helpu Will i edrych ar ei opsiynau ar gyfer y dyfodol ac i fireinio ei ddiddordebau a’i sgiliau fel y gallai ddod o hyd i lwybr rhesymegol a realistig ymlaen. Mae gan Will lawer o wahanol ddiddordebau felly roedd angen i’r staff ei helpu i weld pa rai o’r rhain y gellid eu ffrwyno ar gyfer gyrfa. Fe wnaeth hyn alluogi Will i sylweddoli bod angen iddo chwilio am swydd sy’n weithredol ac sy’n cynnwys symud o gwmpas, ond nid ym maes adeiladu na gosod brics.
Yn ystod ei amser gyda’r prosiect, gwnaeth Will gynnydd da. Yn ogystal â chyflawni ei ddyfarniad Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol, daeth W yn fwy brwd a gyda mwy o ffocws a dechreuodd ymgeisio am swyddi ym maes manwerthu a lletygarwch. Roedd yn teimlo’n dda o wybod, hyd yn oed os nad dyma fydd yn ei wneud am ei oes gyfan, y gallai gweithio mewn sector ffyniannus fel manwerthu agor rhai drysau iddo a bydd yn rhoi sgiliau a phrofiad gwerthfawr iddo.
Cyrhaeddodd Will bwynt lle roedd yn gallu ymgeisio’n annibynnol am hyd at bum swydd bob wythnos, a mynychu cyfweliadau’n hyderus. Yn lle profi diffyg cymhelliant ar ôl pob cyfweliad aflwyddiannus, dyfalbarhaodd Will nes llwyddo i ennill lle ar raglen Get Into Retail y Prince’s Trust yn John Lewis yng Nghaerdydd a chafodd adborth da.
O ganlyniad i’r holl gefnogaeth yma mae Will wedi cwblhau ei wythnos o brofiad gwaith a bydd yn dechrau gwaith â thâl yn John Lewis yn fuan. Mae’n ei fwynhau’n fawr ac yn dweud ei fod yn ddiolchgar am y cyfle.