Mae’r Rhaglen Weithredol “Môr a Physgodfeydd 2014-2020” ar gyfer cymorth gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn y DU yn ceisio gwireddu blaenoriaethau datblygu cenedlaethol allweddol ynghyd ag amcanion “Ewrop 2020”. Mae’r Rhaglen Weithredol yn mynd i’r afael â diwygio cyffredinol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) a datblygu’r Polisi Môr Integredig (IMP).
Mae amcanion y DU wedi’u diffinio o dan 4 prif nod polisi:
Mae ardaloedd pysgodfeydd ledled yr UE yn wynebu heriau sylweddol. Mae’r dirywiad cyson mewn incwm a chyflogaeth yn y sector pysgota wedi tanlinellu’r angen am ymatebion arloesol sy’n gynaliadwy ac yn gynhwysol.
Mae Datblygiad Dan Arweiniad y Gymuned (CLLD) yn adnodd sy’n galluogi cymunedau pysgodfeydd lleol i fynd i’r afael â’r heriau hyn ar lawr gwlad gan ddefnyddio gwybodaeth rhanddeiliaid lleol i ddatrys problemau lleol.
Mae Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn ariannu Grwpiau Gweithredu Lleol Pysgodfeydd (FLAGs) i gyflwyno CLLD sy’n canolbwyntio ar bysgodfeydd yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud trwy Strategaeth Datblygu Lleol (LDS) wedi’i chynllunio gan bob un o’r FLAGs. O dan EMFF, bydd y FLAGs yn canolbwyntio’n bennaf ar gynorthwyo cymunedau pysgodfeydd i addasu i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) diwygiedig a chefnogi twf economaidd cynaliadwy.
Canllawiau ar FLAGs
Cwestiynau Cyffredin am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru