Mae FLEXIS yn weithrediad ymchwil gwerth £24 miliwn a’i bwrpas yw datblygu gallu ymchwilio systemau ynni yng Nghymru a fydd yn gwella ymhellach y gallu o’r radd flaenaf sydd eisoes yn bodoli ym mhrifysgolion Cymru. Er mwyn i’r DU gyflawni ei hymrwymiadau o ran y newid yn yr hinsawdd, bydd angen datblygu systemau ynni sy’n arwain at allu datgarboneiddio ein cyflenwad ynni, ac, ar yr un pryd, diogelu ei sicrwydd a’i fforddiadwyedd. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â materion pwysig sy’n wynebu’r gymdeithas ar hyn o bryd, megis y newid yn yr hinsawdd, cynnydd mewn prisiau ynni, a thlodi tanwydd. Mae’r ymchwil wedi’i seilio ar bedair prif elfen:
Mae’r prosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, ac mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ac Arolwg Daearegol Prydain yn cymryd rhan hefyd. Mae partneriaid eraill yn cynnwys TATA Steel, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar 18 o Becynnau Gwaith sy’n edrych ar ddatblygiadau cyffrous gan gynnwys dal carbon a storio hydrogen, gan roi ystyriaeth i elfennau economaidd a chymdeithasol yn barhaus. Nodwyd safle arddangos, a’i ganolfan yng Ngwaith Dur TATA ym Mhort Talbot.
Bydd y prosiect o fudd i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf yn Ne-ddwyrain Cymru, a Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe hefyd.
Mae’r prosiect yn mynd rhagddo yn dda, gan ennill dros £20 miliwn mewn grantiau i Gymru, cyhoeddi 226 o bapurau gyda chapasiti ymchwil o 86 aelod o staff.
Trefnodd FLEXIS nifer o ddigwyddiadau llawn bri, a chymryd rhan ynddynt:
Mae cyflawniadau nodedig eraill yn cynnwys dyfarnu swyddogaeth Cadeirydd Technolegau Datblygol yr Academi Frenhinol Peirianneg i’r Athro Richard Dinsdale yn ddiweddar, am ymchwil pellach i systemau Bio-electrogemegol.