Nod yr ymgyrch yw cefnogi’r rhai hynny sydd rhwng 11 a 24 oed i leihau’r posibilrwydd na fyddant mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ar ôl gadael yr ysgol drwy ddarparu ymyraethau cynnar a fydd yn gwella dangosyddion fel presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad a lles.
Mae’r ymgyrch Ysbrydoli i Gyflawni (Dwyrain Cymru) yn rhoi pwyslais amlwg ar ymgysylltu â’r rhai hynny y nodwyd eu bod fwyaf mewn perygl mewn lleoliadau addysg. Pan fydd yr unigolyn ifanc yn ymgysylltu â’r ymgyrch datblygir cynllun asesu cyfannol a chynllun gweithredu personol, ar y cyd ag ef. Bydd hwn yn cynnwys asesiad cychwynnol yn rhan o offeryn mesur datblygiad, i asesu pam y cyfeiriwyd yr unigolyn ifanc ac i ddeall yr hyn sydd angen ei ddatblygu a’i wella i sicrhau bod y risg o fod yn NEET yn cael ei leihau.
Mae’r prosiect yn gweithio ar draws yr ardaloedd awdurdod lleol canlynol yn Nwyrain Cymru: Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.
Pobl ifanc (11 – 24 oed) a nodwyd drwy ddefnyddio Offerynnau Nodi yn Gynnar ac Asesiadau Sgrinio mewn Addysg Bellach yr awdurdod lleol eu bod fwyaf mewn perygl o fod yn NEET ar ôl gadael y ddarpariaeth addysg y maent ynddi.
Mae gan yr ymgyrch 3 phrif ganlyniad y bydd yn gweithio i gefnogi’r bobl ifanc sydd wedi eu hymgysylltu i’w cyflawni sef:
Darpariaeth Leol
Mae gan yr ymgyrch saith Buddiolwr ar y Cyd sy’n gweithio yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru a fydd yn ymgysylltu â phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET a’u chefnogi, sef:
Coleg Caerdydd a’r Fro
Cyswllt: David Heald
E-bost: dheald@cavc.ac.uk
Gyrfa Cymru
Cyswllt: Beth Titley
E-bost: beth.titley@careerswales.com
Cyngor Dinas Caerdydd
Cyswllt: Darren Healey
E-bost: darren.healey@cardiff.gov.uk
Coleg Gwent
Cyswllt: Danial Ashman
E-bost: danial.ashman@coleggwent.ac.uk
Cyngor Sir Fynwy
Cyswllt: Louise Wilce
E-bost: louisewilce@monmouthshire.gov.uk
Cyngor Bro Morgannwg
Cyswllt: Mark Davies
E-bost: Inspire2achieve@valeofglamorgan.gov.uk
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyswllt: Bethan Allan
E-bost: bethan.allan@newport.gov.uk