Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru (WIN) yn fenter newydd sydd wedi’i sefydlu gan Brifysgolion Cymru i sicrhau newid sylweddol yn nyfnder ac ehangder gweithgarwch ymchwil ac arloesi cydweithredol Cymru fel yr argymhellwyd yn adroddiad ‘Strength in Diversity’ yr Athro Graeme Reid. Bydd y Rhwydwaith yn cynnwys y naw prifysgol bartner sy’n ffurfio aelodaeth Prifysgolion Cymru.
Nod WIN yw codi proffil ymchwil ac arloesi yng Nghymru a’r DU, darparu fforwm lle gall cyfranogwyr rannu arbenigedd, a’i gwneud yn haws i brifysgolion Cymru ffurfio partneriaethau a rhannu seilwaith. Yn ogystal ag annog cydweithio ar draws prifysgolion yng Nghymru, mae’r Rhwydwaith hefyd yn cefnogi cydweithio ag ystod eang o gyrff sector preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, gan gryfhau cyfnewid gwybodaeth ledled Cymru.
Ers 2019 mae RETs De Ddwyrain a De Cymru wedi bod yn cydlynu rhwydwaith o brosiectau ymchwil ac arloesi a gyllidir gan ERDF ac sy’n effeithio ar ein rhanbarthau. Cyflwynodd cyfarfod mis Ebrill o rwydwaith ERDF weithrediadau i waith WIN a rhaid diolch i Lewis Dean, pennaeth WIN a benodwyd yn ddiweddar, am ymuno â ni. Edrychwn ymlaen at allu rhannu mwy o newyddion o’r rhwydwaith gyda chi mewn cylchlythyrau yn y dyfodol.