Nod y Rhaglen Arwain Twf Busnes 20Twenty yw helpu sefydliadau uchelgeisiol yn Nwyrain Cymru i gyflawni twf cynaliadwy, trwy ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i reolwyr, arweinwyr a pherchnogion gyflawni gwell effeithlonrwydd, cynllunio strategaethau twf a gweithredu nodau ehangu.
Bydd y rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i ennill cymwysterau, cynllunio cynllun twf busnes, elwa ar swyddog hyfforddi ar sail unigol yn eu gweithle, datblygu gwytnwch meddyliol i negodi’n llwyddiannus, datblygu strategaeth arloesol er mwyn estyn i farchnadoedd newydd a datblygu sgiliau allweddol mewn marchnata, cyllid, rheoli newid a darbodusrwydd. Hon yw’r unig raglen yng Nghymru sy’n cynnig llwybr datblygu o Lefel 3 Sefydliad Rheolaeth Siartredig i Lefel 7, gan arwain at Dystysgrif Ôl-raddedig a Meistr Gweinyddiaeth Busnes Gweithredol.
Bydd y rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu cyfres unigryw o sgiliau pobl a busnes y gallant eu defnyddio ar unwaith yn y gweithle er mwyn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant, proffidioldeb a chystadleurwydd. Mae’r prosiect yn cynnwys yr holl ddeunyddiau addysgu, aelodaeth o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig, hyfforddiant gweithredol ar sail unigol, a thiwtor personol i helpu â’r asesiadau dewisol.
Gweithredir y prosiect ledled ardal rhaglen Dwyrain Cymru.
Mae’n rhaid bod cyfranogwyr naill ai yn gweithio neu’n byw yn ardal rhaglen Dwyrain Cymru. Mae’r prosiect yn targedu yn benodol: