Cynlluniwyd Rhaglen Arweinyddiaeth ION i ddatblygu ac ymestyn sgiliau arwain perchnogion, rheolwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol mewn busnesau o unrhyw faint.
Mae’r cwrs a ddarperir gan arbenigwyr busnes, yn seiliedig ar ddysgu ymarferol a dysgu trwy brofiad, yn rhan o grŵp o gyfoedion dibynadwy ac maent yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ddatrysiadau go iawn i’r gwir broblemau y mae arweinwyr yn eu hwynebu ar bob lefel, bob dydd.
Mae creu gwell arweinwyr yn sicrhau gweithlu mwy ymrwymedig, yn cynyddu cynhyrchiant, gwell elw net ac yn y pen draw yn cael effaith gadarnhaol ar Economi Cymru yn gyffredinol.
Bydd y gweithrediad yn cynnig:
Gweithredir y prosiect ledled ardal rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Perchnogion, rheolwyr, arweinwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol mewn cwmnïau bach, canolig a mawr neu fentrau cymdeithasol neu’n gweithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, ac eithrio’r rhai hynny o’r sector gyhoeddus.
594 o gynrychiolwyr sy’n gadael y rhaglen â chymhwyster rhwng Lefel 3 a 7.