Labordy Arloesedd Cyfreithiol Cymru
Disgrifiad o’r prosiect
Cynllun £5.6 miliwn (£4 miliwn drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop), yn cefnogi datblygiad cyfleusterau ymchwil/cydweithio unigryw a threfniadau penodi staff ymchwil.
Nod y cynllun yw annog arloesedd mewn Technoleg Gyfreithiol, Mynediad at Gyfiawnder, a gwrthsefyll seiberfygythiadau drwy wneud y canlynol:
- sicrhau’r cyfleoedd gorau i arloesi yn y sector Technoleg Gyfreithiol newydd;
- datblygu pecynnau cymorth a fframweithiau i liniaru’r perygl o droseddwyr a therfysgwyr yn cam-fanteisio ar gyfryngau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol;
- defnyddio cynnyrch a gwasanaethau digidol sy’n helpu cymunedau i gael gafael ar ganllawiau a gwybodaeth gyfreithiol.
Mae’r cynllun yn parhau â gwaith y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, y Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn y Gyfraith, a Chlinig y Gyfraith yn y Brifysgol.
Model Cyflawni
- Sefydlu cyfleusterau ymchwil ac arloesi newydd:
-
- Ystafelloedd Seiberfygythiadau
- Canolfan Arloesi Cyfreithiol
- Man Cydweithredu ac Arloesi
- Clinig y Gyfraith
- Penodi tîm prosiect (gan gynnwys tîm datblygu meddalwedd)
- Penodi ymchwilwyr a fydd yn gweithio ym maes Seiberfygythiadau a Thechnoleg Gyfreithiol
- Cynnal gweithgareddau ymgysylltu i ddod ag ymchwilwyr a defnyddwyr ymchwil at ei gilydd i ddatblygu prosiectau cydweithio.
Cwmpas daearyddol
Bydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol ledled Cymru. Ariennir y gwaith o dan raglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ond bwriedir iddo gefnogi arloesedd cyfreithiol ledled Cymru.
Targedau penodol
- Sefydlu cyfleusterau ymchwil newydd erbyn haf 2020
- Penodi 7.6 ymchwilydd newydd cyfwerth ag amser llawn
- 20 ymchwilydd cyfwerth ag amser llawn i weithio yn y cyfleusterau erbyn mis Mehefin 2023
- 20 o bartneriaid yn cydweithio ar brosiectau ymchwil
- £3.4 miliwn o incwm ymchwil
Manylion cyswllt
Enw: Dr Chris Marshall
E-bost: c.g.marshall@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 513240
Cyfeiriad: Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP
Twitter: