Busnes Cymdeithasol Cymru
Disgrifiad o’r prosiect
Bydd gweithrediad Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cymorth busnes arbenigol i fusnesau cymdeithasol ar gyfer twf ar draws Cymru. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau ym mherchnogaeth cyflogeion.
Model Cyflawni
Bydd cymorth un i un ar gael i fusnesau cymdeithasol cymwys sy’n bwriadu ehangu a datblygu eu busnes. Bydd y cymorth yn cynnwys:
- Creu gweledigaeth a chynllunio twf
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Cyngor ar strwythurau cyfreithiol ac ymgorffori
- Datblygu bwrdd
- Cynllunio busnes
- Cynllunio ariannol
- Strategaeth gwerthu a marchnata
- Cyngor ar drethi a TAW
- Recriwtio ac Adnoddau Dynol
Bydd cymorth ar gyfer datblygu marchnad yn cefnogi’r cymorth un i un a gynigir i fusnesau cymdeithasol cymwys ar draws Cymru.
Cwmpas daearyddol
Cyflawnir y prosiect drwy Gymru gyfan.
Meini prawf cymhwyster hanfodol
Penderfynir ar hawl i fod yn rhan o’r prosiect gan y Cynghorydd Busnes ar gyfer y rhanbarth. I fod yn gymwys bydd yn rhaid i’r busnes cymdeithasol ddangos twf, e.e. creu swyddi, ehangu, trawsnewid, cydweithredu neu arallgyfeirio.
Targedau penodol
- Cynyddu cyflogaeth yn y mentrau a gefnogir (500)
- Mentrau sy’n cael cefnogaeth nad yw’n ariannol (500)
- Mentrau sy’n mabwysiadu neu’n gwella strategaethau datblygu cynaliadwy (250)
- Mentrau sy’n mabwysiadu neu’n gwella strategaethau cydraddoldeb/systemau monitro (250)
Manylion cyswllt
E-bost: sbwenquiries@wales.coop
Rhif ffôn: 0300 060 3000
Cyfeiriad: Y Borth, Heol y Beddau, Caerffili, CF83 2AX
Gwefan:

Twitter:
Cynnydd
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017
Mae’n bodloni pob targed ar hyn o bryd:
- Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi cefnogi 160 o fusnesau
- Crëwyd 116 o swyddi
- Cefnogwyd 55 o fusnesau cymdeithasol i fabwysiadu neu wella eu strategaethau datblygu cynaliadwy
- Cefnogwyd 61 o fusnesau cymdeithasol i fabwysiadu neu wella eu strategaethau cydraddoldeb/systemau monitro