Bydd STEM Cymru 2 yn adeiladu ar lwyddiant prosiect STEM Cymru i barhau i annog mwy o bobl ifanc rhwng 11 a 19 mlwydd oed i wneud pynciau STEM ac i wella cyraeddiadau ynddynt. Bydd y gweithrediad yn darparu amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau STEM sy’n gysylltiedig â chyflogwyr mewn diwydiant.
Ei nod yw:
Targedir cefnogaeth at gynyddu lefelau’r cyraeddiadau mewn pynciau STEM ymhlith y rhai sy’n 11-19 mlwydd oed. Bydd y cyfranogwyr yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn caniatáu iddynt fod yn fwy hyblyg ac i allu addasu’n haws a byddant yn fwy ymwybodol o’r angen i gael sgiliau cyflogadwyedd, gan wella cyraeddiadau drwy ddefnyddio mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg mewn cyd-destunau ymarferol.
Mae’r prosiect ar waith ym mhob ardal ledled Cymru
Disgyblion rhwng 11 a 19 mlwydd oed
Y grwpiau targed penodol ar gyfer y prosiect hwn fydd myfyrwyr ysgol a choleg rhwng 11 a 19 mlwydd oed, gyda phwyslais ar ymgysylltu â merched i’w hannog i wneud pynciau STEM, a bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes peirianneg.