Cyflawnwyd gwelliannau sylweddol mewn pum gorsaf allweddol gan y gweithrediad hwn mewn ardaloedd yn y Gorllewin a’r Cymoedd – Pontypridd, Ystrad Mynach, Aberystwyth, Port Talbot, a’r Rhyl. Canlyniad y gweithrediad yw gorsafoedd mwy deniadol, diogel a hygyrch, gyda gwell cysylltiadau â dulliau eraill o gludiant, sy’n arwain at gynnydd yn y defnydd o’r rheilffyrdd, ar gyfer cymudo a theithiau eraill.
Cafodd y gweithrediad ei reoli gan Isadran Trafnidiaeth Gyhoeddus ar y cyd ag Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru drwy gytundeb â Network Rail a fydd yn caffael contractwyr i gwblhau’r gwaith adeiladu.
Bydd y prosiect o fudd i Gaerffili a Rhondda Cynon Taf yn rhanbarth y De-ddwyrain a Chastell-nedd Port Talbot, Sir Ddinbych a Cheredigion yn ehangach.
Nifer y cyfleusterau rhyngfoddol a gafodd eu gwella: 5
Gweithrediad wedi’i gwblhau
Cyn: Ar ôl:
(Ffynhonnell: Rhwydwaith Cymru)
Cyn: Platfform a Phont Ar ôl: Swyddfa Docynnau a Phont